Pa mor bwysig yw sgiliau a hyfforddiant adeiladu i’ch busnes?
Mae’r gynhadledd hon wedi’i hariannu ar gyfer cwmnïau adeiladu ac mae’n cynnig cyfle i chi ddysgu am bynciau llosg fel y Ddeddf Diogelwch Adeiladau a’r Ddeddf Caffael, yn ogystal â rhoi’r cyfle i gael cymorth un-i-un ar gael mynediad at gyllid a gwasanaethau CITB yn ogystal â'ch helpu i ddeall hanfodion busnes.
Gallwch ddewis gweithdai sydd fwyaf perthnasol i chi a’ch busnes, cwrdd â’n tîm Gweithredol a dweud wrthynt eich barn am CITB. Bydd cynghorwyr CITB a chydweithwyr o ffederasiynau diwydiant, grwpiau hyfforddi a darparwyr hyfforddiant hefyd wrth law i roi cyngor un-i-un i chi.
Cofrestrwch nawrSut ydyn ni’n gweithio gyda chi i fynd i’r afael â phrinder sgiliau ym maes adeiladu?
Mae darparwyr hyfforddiant yn hollbwysig i ni. Dewch i'r gynhadledd hon a ariennir i glywed am bynciau llosg yn y diwydiant a chwrdd â thîm gweithredol CITB, ffederasiynau adeiladu a chwmnïau adeiladu. Manteisiwch ar gefnogaeth un-i-un gan dîm CITB ynglŷn â’r system grantiau a safonau hyfforddi CITB.
Rydym eisiau gweithio mewn partneriaeth â darparwyr i fynd i’r afael â phrinder sgiliau, a gallwch ein helpu i lunio’r cynlluniau hyn yn ein gweithdai darparwyr. Darganfyddwch sut y gallai ein cynlluniau i adeiladu rhwydwaith darparwyr ledled Prydain Fawr helpu eich busnes i hyfforddi a chefnogi mwy o gwmnïau adeiladu.
Cofrestrwch nawrMae Canolfan Gynadledda ILEC yn ibis Earls Court, a leolir yng Ngorllewin Llundain, yn cynnwys Swît Llundain sydd â lle i hyd at 1,200 o bobl.
Mae’r gwesty mewn lleoliad delfrydol ar gyfer mynediad mewn car, trên a’r rheilffordd danddaearol, gyda pharcio diogel 24/7 ar gael ar y safle am gost. Mae’r gwesty wedi’i leoli y tu allan i’r ardal tâl tagfeydd.
Mae lifftiau a mynediad heb risiau i’r holl ystafelloedd. Mae toiledau hygyrch ar gael drwyddi draw yn ogystal â mannau parcio ehangach. Ar gyfer cynrychiolwyr sydd eisiau rhagor o wybodaeth am y lleoliad, ewch i’r wefan yma.
ibis London Earls Court / Canolfan Gynadledda ILEC
47 Lillie Road
Llundain
SW6 1UD